PET(4)-05-12 p11a

 

P-04-377 Parhau Tocynnau Teithio Rhad ar Gludiant Cymunedol

 

Geiriad y ddeiseb:

Gofynnwn i Lywodraeth Cymrun ystyried argymhellion y gwerthusiad o Fenter Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol (CTCFI) a gomisiynwyd yn allanol, a bod y cynllun yn cael ei ymestyn i gynnwys cynlluniau trafnidiaeth gymunedol trwy Gymru ar sail prisiau tocynnau ar wahân, er mwyn sicrhau cydraddoldeb In dinasyddion mwyaf agored i niwed pobl hŷn a phobl anabl na all ddefnyddio eu cardiau bws ar drafnidiaeth gyhoeddus gonfensiynol.

Prif ddeisebydd: Betsan Calwell

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 13 Mawrth 2012

Nifer y deisebwyr: Tua 4,000

Gwybodaeth ategol:Bydd Menter Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol wedi gwneud oddeutu 1.3 miliwn siwrnai hanfodol erbyn mis Mawrth 2012, yn cludo pobl oedrannus a phobl anabl at wasanaethau na fyddent wedi llwyddo iw cyrraedd fel arall. Dengys y dystiolaeth effaith lesol y cynllun, a sefydlwyd i sicrhau cydraddoldeb mynediad, ar fywydau defnyddwyr y gwasanaeth. Gan fod poblogaeth Cymrun heneiddio, a chyfraddau anabledd ychydig yn uwch, cynyddu fydd yr angen am y gwasanaeth hwn, ac mae bron 18,000 o ddefnyddwyr eisoes wedi cofrestru i ddefnyddior gwasanaeth. Mae angen tua £3.9 miliwn yn y flwyddyn 2012-13 i sicrhau bod Menter Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol yn rhan o gynllun tocynnau teithio rhatach Cymru gyfan ar sail prisiau tocynnau ar wahân. Byddai hyn yn cynnwys arian pontio i rai o’r 15 cynllun gwreiddiol a all fod yn wynebu eu cau ar ddiwedd mis Mawrth. Gallai hyn arwain at golli swyddi a cholli ymrwymiad gwerthfawr gan wirfoddolwyr. Ni fydd torrir Fenter Tocynnau Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol yn datrys y mater o gydraddoldeb, er ei bod yn ddyletswydd statudol ar Lywodraeth Cymru Iw hyrwyddo, a byddair cam hwn yn effeithio’n andwyol ar ein dinasyddion mwyaf agored i niwed